SL(6)406 – Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd llosgi mathau penodedig o wastraff ailgylchadwy a gesglir ar wahân, neu eu dodi ar safle tirlenwi. Mae Llywodraeth Cymru yn esbonio hynny yn y Memorandwm Esboniadol “bydd hyn yn sicrhau bod gwastraff a gyflwynir ac a gesglir ar wahân yn unol â’r [Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023] yn cael ei ailgylchu fel y bwriadwyd.”

Y mathau o wastraff yw:

·         Bwyd;

·         Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach;

·         Cerdyn;

·         Cartonau; a

·         Thecstilau penodol (bydd tecstilau heb eu gwerthu yn cael eu gwahardd rhag cael eu llosgi, bydd pob tecstil yn cael ei wahardd rhag cael ei ddodi ar safle tirlenwi).

Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd dodi gwastraff pren ar safle tirlenwi, pa un a yw’r gwastraff wedi ei gasglu ar wahân ai peidio.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ehangu ar y newidiadau a weithredir gan Reoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020 a oedd yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (“Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol”) i wahardd deunyddiau penodol a gesglir ar wahân rhag cael eu llosgi a'u dodi ar safle tirlenwi (gwydr; plastig; metel; a phapur).

Cyflawnir y gwaharddiad newydd drwy ychwanegu mathau penodedig ychwanegol o wastraff at ddarpariaethau yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol y bernir odanynt fod amodau wedi eu cynnwys ym mhob trwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi safle tirlenwi, peiriant llosgi gwastraff bach, peiriant cydlosgi gwastraff, neu beiriant llosgi gwastraff.

Yr amod perthnasol yw na chaniateir i weithredwr cyfleuster o’r fath dderbyn mathau penodedig o wastraff i’w llosgi nac i’w tirlenwi os yw’r gwastraff hwnnw wedi ei gasglu ar wahân at ddiben ei baratoi i’w ailddefnyddio neu ei ailgylchu.

Y weithdrefn

Cadarnhaol drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 7 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn y rhaglith i'r Rheoliadau hyn, enwir adran 55a o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, ynghyd â nifer o ddarpariaethau eraill, fel pŵer galluogi ar gyfer gwneud y Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, nid yw Deddf 2008 yn cynnwys adran 55a. Mae angen esboniad ynghylch cynnwys adran 55a o Ddeddf 2008 fel pŵer galluogi.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn rheoliad 3, diffinnir Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 fel "Rheoliadau 2016". Ond ym mhenawdau Rhan 3 a rheoliad 4, a hefyd yng nghorff testun rheoliad 4(1), cyfeirir at y Rheoliadau hynny yn ôl eu teitl llawn yn hytrach na chan y term diffiniedig hwnnw.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Yn y testun Saesneg, defnyddir yr ymadrodd how payment may be made" ym mharagraffau 6(c), 16(c), 19(4)(c) a 22(3)(c) o’r Atodlen ond yn y testun Cymraeg, mae'r cyfieithiad wedi defnyddio term gwahanol i gyfleu ystyr “may” ym mharagraffau 6(c) ac 16(c), i’r hyn a ddefnyddir yn 19(4)(c) a 22(3)(c).

Ym mharagraffau 6(c) a 16(c), defnyddiwyd y gair "gellir" yn y testun Cymraeg, sef gair a ddefnyddir fel arfer i gyfleu “may” pan gyfleir posibilrwydd neu “can”, ac felly’r Saesneg cyfatebol fyddai “how payment can be made". Ym mharagraffau 19(4)(c) a 22(3)(c), mae'r testun Cymraeg yn defnyddio "caniateir" sef y term safonol a geir yng Nghanllawiau Drafftio'r Uned Gyfieithu Deddfwriaethol ar gyfer “may” wrth gyfleu cael pŵer disgresiwn i wneud rhywbeth, sef “permitted” neu “is allowed” yn Saesneg, ac felly ystyr yr ymadrodd yn Saesneg fyddai how payment is permitted/ allowed to be made".

Mae'r gwahaniaeth yn y dewis o dermau yn y cyfieithiad yn awgrymu i ddarllenydd y testun Cymraeg fod gwahaniaeth ystyr pan fo'r ymadrodd “how payment may be made yn cael ei ddefnyddio ym mharagraffau 6(c) a 16(c) o gymharu â pharagraffau 19(4)(c) a 22(3)(c) er nad oes gwahaniaeth ystyr o’r fath i’w gael yn y testun Saesneg.

Yn ogystal, ym mharagraffau cyfatebol yr Atodlen i Orchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023, mae'r testun Cymraeg wedi defnyddio  "caniateir" ar bob achlysur yn yr un ymadrodd.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Ym mharagraff 11(1) o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn, yn y testun Cymraeg, defnyddir dau air amgen wrth ymyl ei gilydd yn y frawddeg berthnasol i gyfleu’r gair “determine” (sef yr hyn a ddefnyddir yn y testun Saesneg), sef “ganfyddir bennir”. Yn sgil hyn, nid yw'r frawddeg yn y testun Cymraeg yn gwneud synnwyr. Ymddengys fod y defnydd o  “bennir” yn gywir yn y cyd-destun hwn.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Yng ngeiriau agoriadol paragraff 25(1) o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn, mae’r cyfieithiad yn amwys a gallai awgrymu i ddarllenydd y testun Cymraeg mai’r ystyr yw “Where power is conferred on the regulator in these Regulations to impose a civil sanction, yn hytrach na Where these Regulations confer power on the regulator to impose a civil sanction. Byddai ystyr y testun Cymraeg yn gliriach pe bai wedi dilyn y gystrawen a ddefnyddiwyd yn y cyfieithiad ym mharagraff 25(1) o’r Atodlen i Orchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023. Yna, byddai'n cael ei gyfieithu fel “Pan fo’r Rheoliadau hyn yn rhoi pŵer i’r rheoleiddiwr i osod sancsiwn sifil” yn hytrach na “Pan fo pŵer yn cael ei roi i’r rheoleiddiwr yn y Rheoliadau hyn i osod sancsiwn sifil”.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn y geiriau agoriadol i baragraff 25(2) a (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, dylai’r cyfeiriad at ym mharagraff (1)(b)” nodi yn is-baragraff (1)(b)” (pwyslais wedi'i ychwanegu). Mae mater tebyg yn codi ym mharagraff 28(2) o'r Atodlen, lle dylai’r cyfeiriad at ym mharagraff (1)(a)” nodi yn is-baragraff (1)(a)” (pwyslais wedi'i ychwanegu). Gweler Drafftio Deddfau i Gymru 6.16 am gyfeiriadau cyfansawdd.

7.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Ym mharagraff 25(3)(c) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, yn y testun Saesneg, defnyddiwyd yr ymadrodd determining the amount" (pwyslais wedi'i ychwanegu) mewn perthynas â swm y gosb berthnasol. Fodd bynnag, ym mharagraff 26(c) o’r Atodlen, defnyddiwyd establishing the amount" (pwyslais wedi'i ychwanegu) mewn perthynas â chosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill costau gorfodaeth.

Yn y testun Cymraeg, defnyddiwyd geiriau gwahanol yn y lleoedd cyfatebol er mwyn cyfleu’r gwahaniaeth ystyr. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod y naill na'r llall o'r geiriau a ddefnyddiwyd yn y testun Cymraeg yn cyfleu gwahanol ystyron y testun Saesneg (gan gymryd bod defnyddio’r termau gwahanol “determining” ac “establishing” yn fwriadol yn y paragraffau perthnasol) yng nghyd-destun y paragraffau hynny.

Ym mharagraff 25(3)(c) o’r Atodlen, defnyddiwyd "ganfod". Fodd bynnag, byddai’r cyd-destun yn awgrymu mai’r gair “bennu” fyddai’r dewis mwyaf priodol os yw “determining” yn cael ei ddefnyddio gyda’r ystyr “to specify or set/fix the amount of penalty to be paid. Nodir y defnyddiwyd “bennu” ym mharagraff cyfatebol 25(3)(c) o’r Atodlen i Orchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023.

Ym mharagraff 26(c) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, defnyddiwyd “nodi'r”. Fodd bynnag, byddai’r cyd-destun yn awgrymu y byddai “gadarnhau” efallai yn ddewis mwy priodol os defnyddir “establishing” i olygu “to ascertain or discover the amount.” Fodd bynnag, os mai bwriad y testun Saesneg yw cyfleu'r un ystyr â “determine” ym mharagraff 25(3)(c), yna “bennu'r” fyddai'r gair mwyaf priodol yn y testun Cymraeg. Nodir ym mharagraff cyfatebol 26(c) o'r Atodlen i Orchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023, ac Atodlen 2 i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023, fod y testun Cymraeg wedi defnyddio “bennu'r” lle mae'r testun Saesneg yn defnyddio “establishing” yn y cyd-destun hwn.

Mae'r anghysondebau hyn rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg yn ei gwneud yn aneglur a oes gwahaniaeth bwriadol yn y drafftio rhwng paragraffau 25(3)(c) a 26(c) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, o ran defnyddio “determining” ac “establishing” yn y drefn honno.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

8.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu drwy farnu bod yr holl drwyddedau amgylcheddol a roddir o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, sy'n awdurdodi safle tirlenwi neu beiriant llosgi, yn cynnwys amod sy'n gwahardd tirlenwi neu losgi (fel y bo'n berthnasol) y deunyddiau gwastraff penodedig a gesglir ar wahân. Bydd yr amod hwn yn gymwys i bob trwydded amgylcheddol, gan gynnwys y rhai a roddwyd cyn gwneud y Rheoliadau hyn.

O ganlyniad, bydd effaith ôl-weithredol i'r Rheoliadau hyn i’r graddau y maent yn effeithio ar ddigwyddiadau neu drafodion yn y gorffennol. Hynny yw, maent yn addasu telerau trwyddedau amgylcheddol a roddwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, er mai dim ond ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym y gellir cyflawni troseddau sy'n gysylltiedig â'r amodau trwydded newydd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru ac eithrio mewn perthynas â phwynt 8.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

16 Tachwedd 2023